Wele Gwawriodd sheet music (Traditional melody)










Info
Artist:
Born:
- , -
Died:
- , -
The Artist:
Traditional Music of unknown author.
Info:
LYRICS:
Wele gwawriodd dydd i'w gofio,
Geni Seilo, gorau swydd;
Wele ddynion mwyn a moddion
Ddônt â rhoddion iddo'n rhwydd:
Hen addewid Eden odiaeth
Heddiw'n berffaith ddaeth i ben;
Wele drefniad dwyfol gariad
O flaen ein llygad heb un llen.

Duw a'n cofiodd, Duw a'n carodd,
Duw osododd Iesu'n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni'n llawn:
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
'N eistedd ar yr orsedd fawr.

Halelwia! Halelwia!
Aeth i'r lladdfa yn ein lle;
Halelwia! Halelwia!
Duw sy'n fodlon ynddo fe:
Sain Hosanna i Fab Dafydd,
Iesu beunydd fyddo'n ben;
Am ei haeddiant sy'n ogoniant
Bydded moliant mwy, Amen.
Instrument:
Choir  (View more Easy Choir Music)
Copyright:
© Copyright 2000-2025 Red Balloon Technology Ltd (8notes.com)